Cydnabyddiaeth
Datblygwyd y Maes Chwarae Mathemateg gyda chymorth grant o Gronfa Datblygu Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.
Cyfrannu
Os dewch ar draws bygiau neu os hoffech awgrymu nodweddion ychwanegol, rhowch wybod i ni trwy ddefnyddio ein system tracio problemau.
Mae'r Maes Chwarae Mathemateg yn brosiect ffynhonnell agored sydd wedi'i drwyddedu o dan drwydded MIT, os hoffech gyfrannu gwelliannau i'r prosiect, ewch i'n tudalen github.
Datblygiadau yn y dyfodol
Hoffem, yn benodol ehangu'r safle i gynnwys y pynciau isod:
Cynrychioliad rhifau
- Degol a deuaidd
- Cyflenwad deuol
- Gormodedd N
- Pwynt arnawf
- Trachywiredd a thalgrynnu
Polynomialau a Chalcwlws
- Graffiau
- Differiad
- Integriad
- Trachywiredd a thalgrynnu
Algebra
- Aildrefnu hafaliad i ynysu newidyn
Awduron
Crëwyd y cysyniad ar gyfer y Maes Chwarae Mathemateg gan Amanda Clare a Hannah Dee, a lwyddodd i ennill grant er mwyn troi'r syniad yn system waith. Cyflogwyd Michael Sheldon i ddylunio a rhoi'r enghreifftiau penodol ar waith ar gyfer pob pwnc. Os hoffech gyflogi Michael i weithio ar eich prosiectau chi, ewch i'w
wefan.
Mae gan Michael BEng mewn Peirianneg Meddalwedd (2008) a PhD mewn Roboteg Ddatblygiadol (2012) o Brifysgol Aberystwyth. Mae ef bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel datblygwr meddalwedd ac ymchwilydd, gan arbenigo mewn datblygiad ffynhonnell agored.
Mae Amanda Clare yn defnyddio cyfrifiadureg i reoli data mewn bioleg. Mae hi hefyd yn ymchwilio i batrymau diddorol yn y data biolegol trwy ddefnyddio dysgu peirianyddol ac algorithmau cloddio data i ddisgrifio a rhagfynegi canlyniadau arbrofion yn y dyfodol.
Mae gan Hannah BSc mewn Gwyddor Gwybyddiaeth (1996), MA mewn Athroniaeth (1998) a PhD mewn Cyfrifiadura (2005), y cyfan o Brifysgol Leeds. Mae ei maes ymchwil yn cynnwys dadansoddi ymddygiad pobl trwy ddelweddau cyfrifiadurol; datguddio cysgodion a rhesymu ynghylch cysgodion; ag agweddau myfyrwyr tuag at astudio cyfrifiadureg. Bu'n gweithio mewn swyddi ôl-ddoethurol yn Grenoble (Ffrainc), Leeds, a Kingston upon Thames. Mae hi'n ymgyrchydd dros fenywod mewn cyfrifiadura ac yn is-gadeirydd
BCSWomen, grŵp British Computer Society i fenywod.